Ennynaist ynof dân
Enynnaist ynof dân
Enynnaist ynwy dân

(Grym Cariad Crist)
  Enynnaist ynof dân,
    Perffeithiaf dân y nef,
  Ni all y moroedd mawr
    Ddiffoddi mono ef;
Dy lais, dy wedd,
      a gweld dy waed,
Sy'n troi 'ngelynion dan fy nhraed.

  Mae caru 'Mhrynwr mawr,
    Mae edrych ar ei wedd
  Y pleser mwya' nawr
    Sy i'w gael
        tu yma i'r bedd:
O gariad rhad, O gariad drud,
Sydd fil o weithiau'n
      fwy na'r byd.

  Wel dyma'r gwrthrych cun,
    A dyma'r awr a'r lle
  Cysegraf fi fy hun
    Yn gyfan iddo fe;
Ffarwel, ffarwel bob eilun mwy,
Mae cariad Iesu'n drech na hwy.

            - - - - -

  Ennynaist ynnof dân,
    Berffeithiaf dan y nef,
  Na's gall y moroedd mawr,
    Byth ddiffodd mo'no ef;
Mae'th lais, mae'th wedd,
      mae rhyn di waed
Yn troi 'ngelynion dan fy nhraed.

  Mae caru Mhrynwr mawr,
    Mae edrych ar ei wedd,
  Yn bleser mwya 'nawr,
    Sy' gael tu yma
          i'r bedd:
O gariad rhad! O gariad drud!
Syth fil o weithiau'n
      fwy na'r byd.

  Wel' dyma'r gwrthddrych cun,
    A thyma'r awr a'r lle
  Cysegra fi fy hun
    Yn gyfan iddo fe:
Ffarwel im' holl eilunod mwy,
Mae cariad Iesu'n drech na hwy.
William Williams 1717-91

Tonau:
Alun (J A Lloyd 1815-74)
Beverley (Salmydd 1791)
Grove (<1829)
Gwladys (William Tans'ur 1700-83)
New Born (<1867)
Rehoboth (W Pencerdd Williams 1856-1924)
St Swithin (Edward Jesser)
Y Faenol (William Propert 1884-1959)

gwelir:
  Mae caru Mhrynwr mawr
  O dychwel Arglwydd mawr

(The Power of the Love of Christ)
  Thou didst kindle in me a fire,
    The most perfect fire of heaven,
  That the great seas cannot
    Extinguish;
Thy voice, thy face,
      and the sight of thy blood,
Are what put my enemies under my feet.

  To love my great Redeemer,
    To look upon his face
  Is the greatest pleasure now
    Which can be got
        this side of the grave:
O free love, O costly love,
Which is a thousand times
      greater than the world.

  Now here is the dear object,
    And here is the time and the place
  I will consecrate myself
    Wholly to him;
Farewell, farewell every idol from now on,
The love of Jesus is superior to them.

                - - - - -

  Thou didst kindle in me a fire,
    The most perfect under heaven,
  That the great seas cannot
    Ever extinguish;
Thy voice, thy face, and
      a little of thy blood, are
Putting my enemies under my feet.

  To love my great Redeemer,
    To look upon his face
  Is the greatest pleasure now
    Which can be got
        this side of the grave:
O free love, O costly love,
Which is a thousand times
      greater than the world.

  See here is the dear object,
    And here is the time and the place
  I will consecrate myself
    Wholly to him:
Farewell to me all idols from now on,
The love of Jesus is superior to them.
tr. 2008,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~